Ysgol Gymraeg newydd?
- Cyhoeddwyd
Bydd cynghorwyr sir yn cwrdd ddydd Llun i drafod sefydlu ysgol Gymraeg newydd yn ne Sir Benfro.
Eisoes mae swyddogion yn argymell cymeradwyo agor ysgol gynradd Gymraeg yn Ninbych-y-pysgod.
Pe bai'r cynghorwyr yn cytuno byddai'r ysgol newydd yn agor ar Fedi 1, 2015.
Ar hyn o bryd mae yna ysgol Fabanod ac ysgol Iau yn y dref, gydag unedau Cymraeg yn y ddwy.
Yn ôl y sir, mae yna 66 o blant llawn amser a 13 o blant rhan amser yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg - ond mae disgwyl i'r nifer gynyddu 85% yn ystod y pedair blynedd nesaf.
Bydd aelodau cabinet Cyngor Sir Penfro yn cwrdd ddydd Llun i drafod argymhelliad i uno'r ysgol Fabanod a'r ysgol Iau.
'Dechrau'r daith'
Byddai'r adeilad gwag wedyn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer sefydlu ysgol Gymraeg.
Yn ôl cyfrifiad 2001, roedd 21% o boblogaeth Sir Benfro yn siarad Cymraeg, er yn hanesyddol roedd y rhan fwyaf ohonynt yn byw yng ngogledd y sir.
Yn siarad ar y Post Cyntaf, dywedodd dirprwy arweinydd y cyngor, Huw George: "Dechrau ar y daith y'n ni heddi ac yn gobeithio yn 2015 y bydd yr ysgol yn agor, felly mae tair blynedd gyda ni nawr i baratoi ac i roi cynlluniau gerbron."
Soniodd hefyd am ei obaith y byddai modd darparu addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg yn y dre yn y dyfodol.
"Ar hyn o bryd mae'r disgyblion yn symud ymlaen i Ysgol y Preseli yng Nghrymych ond mae 'na fwriad gen i a nifer eraill yn y cyngor i sefydlu efallai cangen yn Ninbych-y-pysgod ar gyfer blynyddoedd 7, 8 a 9 yn y blynyddoedd sydd i ddod, fel bydd y rhifau yn codi, a gobeithio wedyn cadarnhau i rieni a'r plant bod ddim eisiau iddyn nhw deithio i'r Preseli, fe gewn nhw addysg Gymraeg yn Ninbych-y-pysgod ei hunan.
"Mae'n ddiwrnod mawr i ni yn Sir Benfro heddi."
Straeon perthnasol
- 13 Awst 2011