Damwain: Ffordd ynghau yng Ngwynedd
- Published
Mae ffordd yr A4244 ynghau i'r ddau gyfeiriad yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a seiclwr brynhawn dydd Iau.
Mae'r gwasanaethau brys wedi eu galw yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng ffordd y B4366 (Llanddeiniolen) a ffordd yr A4086 (Cwm-y-Glo).
Dywed Cyngor Gwynedd nad oeddent wedi pennu amser i ail-agor y ffordd hyd yn hyn.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol