Car mewn siop: Un wedi'i hanafu

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Tomos Surrey
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y fenyw ei chludo i'r ysbyty ond y gred yw nad yw wedi dioddef anafiadau difrifol

Cafodd menyw ei hanafu ar ôl i gar yrru trwy ffenest siop frechdanau yn Aberdâr.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod y fenyw y tu mewn i gangen siop Subway pan aeth y car drwy'r ffenest toc cyn 3:30pm ddydd Iau.

Cafodd y fenyw ei chludo i'r ysbyty ond y gred yw nad yw wedi dioddef anafiadau difrifol.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod tri cherbyd arall wedi cael eu difrodi yn ystod y digwyddiad, ac fe gredir mai damwain ydoedd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol