Pobol y Cwm: Cais llywodraeth "yn warth"

  • Cyhoeddwyd
Mochyn daearFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Yn 2011 fe roddodd Llywdraeth Cymru y gorau i'r cynllun difa

Mae'r dramodydd Gareth Miles wedi beirniadu Llywodraeth Cymru ar ôl iddi wneud cais i S4C beidio ag ailddarlledu pennod o Bobol y Cwm.

Yn y bennod dan sylw dywedodd un o'r cymeriadau nad oes gan Lywodraeth Cymru yr asgwrn cefn i ddifa moch daear.

Roedd y llywodraeth yn honni nad oedd y rhaglen yn cydymffurfio â chanllawiau golygyddol.

Ond dywedodd S4C fod y rhaglen yn cynnwys amrywiaeth o safbwyntiau ac fe gafodd y rhaglen ei hailddarlledu nos Iau.

'Pennod ragorol'

Yn siarad ar y Post Cyntaf fore Gwener, dywedodd Mr Miles, sydd wedi ysgrifennu sawl pennod o Bobol y Cwm yn y gorffennol: "Mae rhywun yn synnu yn y cyd-destun presennol eu bod nhw mor ddigrebwyll.

"Mae hyn yn warth a dweud y gwir, ymyrraeth uniongyrchol gan lywodraeth mewn rhaglen deledu oedd chwarae teg yn delio efo mater sydd o bwys yng nghefn gwlad a hefyd mae yna oblygiadau ehangach.

Disgrifiad o’r llun,
Yn y rhaglen dan sylw mae un o gymeriadau'r gyfres, Cadno, yn cymryd rhan mewn trafodaeth ar y radio

"Eisiau atal y drafodaeth oedden nhw hyd y gwela i.

"Mae arweinwyr S4C a'r BBC wedi bod dan y lach yn ddiweddar ond dwi'n falch eu bod wedi dangos hynny o asgwrn cefn.

"O'n i'n meddwl ei bod hi'n bennod ragorol o Bobol y Cwm ac maen nhw i'w llongyfarch am ddelio gyda mater sydd o bwys mewn ardaloedd yng Nghymru a thu hwnt."

Mae Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Emyr Jones, wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymddiheuro am geisio "tawelu'r cyfryngau".

Gwrthododd BBC Cymru ac S4C geisiadau am gyfweliadau ar y mater.

Pan ofynnwyd i Lywodraeth Cymru am sylw ynghylch penderfyniad S4C i ail-ddarlledu'r bennod, dywedodd llefarydd: "Rydym wedi cyflwyno cwyn i BBC Cymru. Fe fyddai'n amhriodol i wneud sylw tan i ni gael eu hymateb".