BBC Cymru Fyw

Damwain: Seiclwr 46 oed o Wynedd yn yr ysbyty

Published

Mae seiclwr 46 oed wedi dioddef anafiadau difrifol yn dilyn damwain ffordd yng Ngwynedd.

Bu ffordd yr A4244 ynghau i'r ddau gyfeiriad am gyfnod yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng car Vauxhall Astra a'r seiclwr brynhawn dydd Iau.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng ffordd y B4366 (Llanddeiniolen) a ffordd yr A4086 (Cwm-y-Glo).

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod y seiclwr, sy'n ddyn lleol, wedi cael ei gludo i'r ysbyty ag anafiadau i'w ben.

Credir nad yw'r anafiadau yn rhai fydd yn peryglu ei fywyd.

Ni chafodd gyrrwr y car ei anafu.

Straeon perthnasol

  • Damwain: Ffordd ynghau yng Ngwynedd