Cwmni pizza: 200 yn gadael y gwaith yn Sir y Fflint
- Cyhoeddwyd
Mae 200 o weithwyr ffatri pizza yn Sir y Fflint yn gadael y gwaith ddydd Gwener.
Aeth Paramount Foods ar Stad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy i ddwylo'r gweinyddwyr a chollodd bron i 120 o weithwyr eu swyddi.
Yn gynharach y mis hwn doedd gweinyddwyr ddim wedi dod o hyd i brynwr i'r safle.
Colli cytundeb
Yr wythnos diwethaf dywedodd y gweinyddwyr David Whitehouse a Sarah Bell o Duff & Phelps, Manceinion, y byddai'r ffatri'n cau ar Dachwedd 30.
Roedd gwaelod y pizzas yn cael eu pobi mewn ffatri yn Salford gaeodd ddydd Mercher.
Collodd y cwmni gytundeb gydag un o'u cyflenwyr mwya' yn ddiweddar, Morrisons.
Cyn hynny roedd y cwmni'n un o brif gynhyrchwyr pizzas ym Mhrydain.
Dywedodd y cyngor sir y bydden nhw'n gwneud popeth posib' i gefnogi gweithwyr lleol wrth iddyn nhw geisio chwilio am swyddi newydd.
Straeon perthnasol
- 23 Tachwedd 2012
- 24 Hydref 2012
- 9 Hydref 2012
- 8 Hydref 2012