Cyflenwad dŵr yn dychwelyd
- Published
Mae cyflenwad dŵr i 7,000 o gartrefi yn y Rhondda ar fin dychwelyd wedi i brif bibell fyrstio ym Mhontypridd.
Dywedodd cwmni Dŵr Cymru bod y bibell wedi ei thrwsio dros nos, ac y dylai'r cyflenwad ddod yn ôl yn ystod bore Sadwrn.
Collodd tua 7,000 o gartrefi yn ardaloedd Llwynypia, Trealaw, Llwyncelyn, Penygraig, Tonypandy, Porth a Chlydach eu cyflenwad ddydd Gwener, a bu'n rhaid cau 11 o ysgolion.
Mae Dŵr Cymru wedi ymddiheuro am yr "anghyfleustra sylweddol".
Dywedodd y cwmni bod dros 100 o bobl wedi gweithio yn hwyr nos Wener i sicrhau bod y cyflenwad yn dychwelyd.
Dywedodd cyfarwyddwr gweithgareddau'r cwmni, Peter Perry: "Gyda'r tir yn ddirlawn eleni, rydym yn gweld symudiadau yn y tir.
"Fel arfer rydym yn trwsio tua 50 o bibelli wedi byrstio bob dydd. Ar hyn o bryd rydym yn trwsio 70, felly mae hynny'n gynnydd o 35% ar draws Cymru.
"Rwy'n ymddiheuro i'n cwsmeriaid ymhob ardal a ddioddefodd. Nid yw hyn wedi digwydd mor gyflym ag y byddem wedi gobeithio, ond roedd y gwaith trwsio yn gymhleth iawn."
Ychwanegodd Mr Perry yn gynnar ddydd Sadwrn bod tua 2,000 o gartrefi yn ardaloedd Porth a Trealaw ar fin cael eu cyflenwad yn ôl.
Dywedodd Craig Middle, cynghorydd yn Nhonypandy, nad oedd pobl wedi cael rhybudd y byddai'r cyflenwad yn diflannu am gyfnod hir, ond eu bod "yn dod i ben â phethau".
Dywedodd: "I ddechrau fe glywsom y byddai rhwng 6 a 12 awr, ond yn amlwg mae hi wedi bod dros 24 awr erbyn hyn.
"Does gen i ddim dŵr o hyd, ac un broblem ar y funud yw methu fflysio'r toiledau. Dyw dŵr yfed ddim yn gymaint o broblem, ond y pethau bob dydd eraill."
Dywedodd Dŵr Cymru eu bod wedi sefydlu saith o ganolfannau yn yr ardal lle mae dŵr potel yn cael ei ddosbarthu.
Rhif ffôn llinell gymorth Dŵr Cymru yw 0800 052 0130.
Straeon perthnasol
- Published
- 30 Tachwedd 2012