Un mewn ysbyty wedi gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Cafodd un person ei anafu yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd ger Corwen, Sir Ddinbych.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw am 2:23pm brynhawn Sadwrn yn dilyn gwrthdrawiad ar y gyffordd rhwng yr A5 a'r A494.
Bu'n rhaid i swyddogion Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru rhyddhau un person o'i gerbyd.
Cafodd ei gludo i'r ysbyty, ond does dim manylion wedi eu cyhoeddi am ei gyflwr.