Leigh Halfpenny yn cael mynd adre yn dilyn profion ar anaf
- Published
Fe gafodd cefnwr Cymru, Leigh Halfpenny, fynd adref o'r ysbyty fore Sul wedi iddo gael sganiau ar anaf i'w wddf.
Gadawodd chwaraewr y Gleision y maes ar stretsier ar ddiwedd y golled o 14-12 yn erbyn Awstralia yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn.
Dioddefodd yr anaf wrth geisio atal y symudiad arweiniodd at y cais buddugol gan Kurtley Beale.
Dywedodd Halfpenny: "Hoffwn ddiolch i'r holl dimau meddygol fu'n gofalu amdanaf wedi'r anaf."
Roedd wedi cwyno am boen yn ei wddf wedi'r gêm, ac fe gafodd ei gludo i Ysbyty'r Brifysgol am brofion.
"Roedd y parafeddygon a thimau meddygol Stadiwm y Mileniwm yn wych," ychwanegodd. "Roedd staff Ysbyty'r Brifysgol hefyd yn anhygoel.
"Hoffwn ddiolch hefyd i bawb sydd wedi bod yn gyrru negeseuon o gefnogaeth wedi'r anaf."
Mae'n aneglur ar hyn o bryd pryd y bydd Halfpenny'n medru ail-ddechrau chwarae i'w glwb y Gleision.
Dyma'r anaf diweddaraf mewn cyfres hir i garfan Cymru dros gemau'r hydref.
Roedd Luke Charteris yn un arall fu'n rhaid gadael y maes ddydd Sadwrn - y pedwerydd clo i gael ei anafu o garfan Cymru yn dilyn anafiadau i Alun Wyn Jones, Bradley Davies ac Ian Evans.
Mae yna bedwar prop hefyd ar y rhestr - Aaron Jarvis, Adam Jones, Craig Mitchell a Rhodri Jones - a'r ddau fachwr Huw Bennett a Richard Hibbard.
Ymhlith yr olwyr, mae Halfpenny'n ymuno gyda George North ar y rhestr.
Ddydd Llun bydd yr enwau'n dod o'r het ar gyfer grwpiau Cwpan y Byd 2015. Yn dilyn y golled yn erbyn Awstralia, bydd Cymru yn y drydedd haen o dimau ymysg y detholion.
Straeon perthnasol
- Published
- 1 Rhagfyr 2012
- Published
- 30 Tachwedd 2012
- Published
- 24 Tachwedd 2012
- Published
- 17 Tachwedd 2012
- Published
- 10 Tachwedd 2012