Scarlets 12-19 Ulster

Published
image copyrightother

Scarlets 12-19 Ulster

Ulster enillodd y frwydr rhwng cyntaf ac ail yng Nghynghrair y Pro 12 ym Mharc y Scarlets ddydd Sul.

Gyda nifer o chwaraewyr rhyngwladol ar goll o'r ddau dîm, roedd y dorf yn ansicr beth oedd i'w ddisgwyl.

Yr hyn gafwyd oedd gêm dynn gyda'r grym yn nwylo'r ddau oedd yn cicio at y pyst.

Daeth un cais yn yr hanner cyntaf i's asgellwr rhyngwladol Andrew Trimble - cais a droswyd gan Paddy Jackson i gydfynd â'i gynigion eraill at y pyst.

Un gôl gosb gafodd Aled Thomas i'r Scarlets cyn yr egwyl, ac fe aeth Ulster i orffwys gyda mantais o 13-3.

Mwy gicio gafwyd wedi'r egwyl gyda'r ddau faswr yn cyfnewid pwyntiau â'i gilydd gan ei gadael hi'n 19-9 wedi awr o chwarae.

Roedd yr unig sgôr arall cyn y diwedd yn bwysig am ei fod yn sicrhau pwynt bonws i'r Scarlets, ond y Gwyddelod sydd wedi agor bwlch ar frg y tabl bellach.