Clwb Pêl-droed Llanllyfni'n mentro i faes newydd
- Cyhoeddwyd

Bydd clwb pêl-droed yn mentro i faes newydd wrth ddechrau busnes arlwyo teithiol wrth geisio "gwella rhyngweithio o fewn y gymuned".
Mae Clwb Pêl-droed Llanllyfni ger Caernarfon wedi cael £27,951 o'r Gronfa Loteri Fawr i sefydlu Cwt Cwcio Llanllyfni.
Bydd y busnes yn darparu prydau ar gyfer y gymuned ac yn ceisio cryfhau'r economi leol.
Ers blynyddoedd mae'r pentref wedi colli siopau, swyddfa bost a'r dafarn.
'Hwb'
Dywedodd Darren Thomas, un o aelodau'r gymuned tu ôl i'r cynllun, mae hyn wedi arwain at lai o gymdeithasu gan nad oes unrhyw le i gwrdd yn rheolaidd.
Bydd y busnes yn darparu bwyd cynnes wedi'i gynhyrchu'n lleol ddwywaith yr wythnos yn y lle cyntaf.
"Rydan ni'n gobeithio y bydd y prosiect yn hwb economaidd i gymuned Llanllyfni," meddai Mr Thomas.
"Mae hefyd yn gyfle euraidd i ddatblygu ysbryd cymunedol y pentref drwy greu cyswllt rhwng ein prosiect ni a phobl leol.
"Mae angen cymuned gynaliadwy ar Lanllyfni a dyma ddechrau'r broses.
"Byddwn yn defnyddio adnoddau lleol fel y Neuadd Goffa lle bydd yr oergell a'r rhewgell i storio ein cynnyrch, ac fe fyddwn hefyd yn defnyddio mudiadau cydweithredol a chynnyrch ffermydd lleol."
'Annatod'
Y gobaith yw ail-fuddsoddi incwm yn y prosiect fel bod modd iddo fod yn hunangynhaliol.
Dywedodd Mr Thomas: "Bydd rôl y gymuned yn rhan annatod o'r prosiect.
"Y rhai fydd yn defnyddio'r gwasanaethau yw aelodau'r gymuned leol a bydd pobl ifanc yn cael cyfleoedd i ddysgu sgiliau fydd yn eu helpu i gael swydd.
"Rydym yn edrych ymlaen at gychwyn yr holl beth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2012