Arestio llanc wedi i fysiau losgi
- Cyhoeddwyd
Mae llanc 15 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gynnau tân yn fwriadol wedi tân mewn canolfan fysiau yng Nghasnewydd.
Cafodd tri bws a cherbyd nwyddau trymion eu difrodi'n sylweddol yn y digwyddiad.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r ganolfan ar Corporation Road tua 2:55am fore Llun.
Anfonwyd criwiau tân o Falpas, Maendy a Dyffryn, ynghyd â thanceri dŵr o Gwmbrân.
Fe gymerodd hi ychydig llaw nag awr i ddiffodd y fflamau, yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Chafodd neb ei anafu yn y digwyddiad.
Mewn datganiad, dywedodd rheolwr gyfarwyddwr cwmni Newport Bus, Scott Pearson, eu bod wedi colli dau fws sengl ac un bws deulawr, yn ogystal â lori nwyddau trymion oedd yn cael ei defnyddio ar gyfer hyfforddiant.
Fe gychwynodd y tân yn rhan uchaf y ganolfan, ble mae'r cerbydau yn cael eu glanhau ac yn cael tanwydd.
Bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal yn ddiweddarach ddydd Llun i geisio darganfod achos y tân.
Mae'r llanc a gafodd ei arestio wedi ei gadw yn y ddalfa.