Gwasanaeth C2 Radio Cymru yn dathlu ei ben-blwydd yn 10 oed

Huw Stephens
Image caption Huw Stephens oedd un o'r cyflwynwyr cynta'

Mae gwasanaeth C2 Radio Cymru yn dathlu 10 mlynedd ers ei sefydlu.

Ar y dechrau roedd y gwasanaeth yn darlledu rhwng 8pm a 1am ac ymhlith y cyflwynwyr cyntaf roedd Dafydd Du, Becs, Kevin Davies a Huw Stephens.

Yno hefyd ar ddechrau'r gwasanaeth newydd roedd Terwyn Davies.

"Y bwriad oedd torri tir newydd, dangos fod y gwasanaeth yn adlewyrchu cerddoriaeth gyfoes o bob math," meddai.

"Roedd yn rhoi cyfle i grwpiau newydd a chyflwynwyr newydd."

Ar y pryd roedd Terwyn Davies yn fyfyriwr pan ddaeth yn rhan o'r gwasanaeth newydd.

"Ro'n i'n dal yn y coleg ... daeth cyfle i ni gyfrannu i raglen Criw Bangor.

"Roedd Dylan Wyn yn chwilio am gyflwynwyr newydd ac yn sydyn daeth y cyfle."

'Pwrpas'

Roedd ac y mae C2 yn hyrwyddo grwpiau newydd oherwydd cystadlaethau fel Brwydr y Bandiau, a hefyd yn ceiso hyrwyddo diddordeb mewn canu cyfoes Cymraeg drwy deithio o amgylch ysgolion.

Mae'r actor a'r troellwr Gareth Potter yn un arall sydd wedi cyfrannu'n gyson i raglenni C2.

Ar ei flog ar C2 mae'n gofyn: "Beth ydy pwrpas C2 yn 2012?"

"Ai platfform i lansio gyrfa yn y cyfryngau fel cyflwynydd neu i weinyddu'r gwrandawyr gyda'r danteithion diweddaraf a mwya' blasus o'r sîn?"

"Ife torri tir newydd a darganfod talentau ifanc neu ddiddanu gydag eitemau difyr a doniol?

"Yn bersonol, dwi'n hoffi'r cyfuniad.

"Ac mae'r cyfuniad yma yn bwysig i gadw C2 yn ffresh ac yn ddiddorol."

Erbyn hyn mae C2 rhwng 7pm a 10pm nos Lun tan nos Iau a rhwng 6.30pm a 9pm nos Wener.

Hefyd ar y BBC