Ffordd newydd i hwyluso traffig yng Nghaerfyrddin
- Published
Bydd cynghorwyr yn trafod cynlluniau i godi ffordd newydd fydd yn hwyluso traffig o ffordd ddeuol yr A40 i ogledd orllewin tre' Caerfyrddin.
Bydd y ffordd newydd 1.7 cilomedr o hyd yn golygu codi cylchdro newydd wrth gyffordd y Traveller's Rest ar yr A40.
Dywed swyddogion cynllunio fod yna broblemau traffig yng ngorllewin y dre yn enwedig yn ystod oriau brig.
Byddai'r ffordd yn mynd o'r A40 ac yn cysylltu gyda Ffordd y Coleg yng Nghaerfyrddin.
Mae swyddogion cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cynllun, ond gydag amodau fydd yn diogelu bywyd gwyllt.
Bydd y rhain yn cynnwys codi ffensys priodol i warchod dyfrgwn a moch dear rhag mentro i'r ffordd newydd.
Mae gofyn hefyd i gynllwynwyr sefydlu cartref newydd i ystlumod.
Adfywio
Ar hyn o bryd mae'r ystlumod yn byw mewn dau hen adeilad fydd yn cael eu dymchwel pe bai'r ffordd newydd yn cael caniatâd cynllunio.
Yn ôl adroddiad swyddogion ar gyfer y pwyllgor cynllunio bydd y ffordd hefyd yn rhan o ardal ehangach - sydd wedi ei chlustnodi ar gyfer datblygiad neu adfywiad.
Mae tua 320 erw wedi ei nodi fel nodi fel safle posib ar gyfer 1,100 o dai newydd.
Ond mae nifer o bobl leol wedi mynegi pryder am ddatblygiad o'r fath, a'i effaith ar y dref sydd â phoblogaeth o ychydig dros 13,000.
Dywed swyddogion cynllunio y byddai ffordd newydd hefyd yn hwyluso unrhyw ddatblygiadau pellach yng nghampws Caerfyrddin Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Pharc Dewi Sant - safle'r hen ysbyty seiciatryddol gerllaw.
Fel rhan o gynllun y ffordd newydd bydd pont droed yn cael ei chodi i groesi nant Tawelan.