Llys: Menyw yn cyfadde' llosgi bwriadol ym Mhwllheli
- Published
Mae menyw 48 oed o Wynedd wedi cyfaddef ei bod wedi dinistrio ei chartref.
Yn Llys y Goron Caernarfon plediodd Wendy Hughes o Bwllheli yn euog i gyhuddiad o losgi bwriadol.
Dywedodd y fargyfreithwraig Elen Owen ar ran yr amddiffyn ei bod hi wedi cymryd meddyginiaeth a llawer o alcohol ac nad oedd hi'n cofio llawer am byr hyh ddigwyddodd ar Fedi 26.
Bydd hi yn y ddalfa cyn y ddedfryd ar Ragfyr 31.