Teuluoedd Cymru: Gwario llai na'r cyfartaledd
- Cyhoeddwyd
Mae teuluoedd yng Nghymru ymhlith y rhai sy'n gwario'r lleiaf bob wythnos ar gyfartaledd yn ôl ffigyrau newydd gan Y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Ar gyfartaledd gwariodd pob cartref yng Nghymru £398.20 bob wythnos yn 2011.
Dim ond teuluoedd yng ngogledd ddwyrain Lloegr sy'n gwario llai (£384.20).
Y cyfartaledd ar gyfer y Deyrnas Unedig yw £470.70.
Nwyddau
Ond teuluoedd yng Nghymru sy'n gwario'r mwyaf bob wythnos o ran addysg, £8.70, o'i gymharu â'r cyfartaledd o £8.00 ar gyfer y DU.
Yn ôl yr adroddiad roedd teuluoedd yng Nghymru yn gwario £53.80 yn wythnosol ar drafnidiaeth, £53.60 ar hamdden a diwylliant a £22.10 ar nwyddau a gwasanaethau ar gyfer y cartref.
Teuluoedd yn Llundain (£574.90) a de ddwyrain Lloegr (£539.30) oedd yn gwario mwyaf o ran bob wythnos yn ôl ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau.