Pwyllgor craffu yn trafod rhinweddau llwybr ffordd osgoi Bontnewydd
- Published
Mae'r gwrthwynebiad i un rhan o lwybr ffordd osgoi newydd Bontnewydd yn cynyddu.
Ddydd Mawrth mae Pwyllgor Craffu Cymunedau Cyngor Gwynedd yn clywed dadleuon y rhai sy'n erbyn rhan o'r ffordd osgoi sy'n ymuno â Ffordd Osgoi'r Felinheli.
Mae 'na wrthwynebiad yn lleol i'r "llwybr porffor" sy'n cael ei ffafrio gan Lywodraeth Cymru.
Cymunedau Bethel a'r Felinheli sy'n gwrthwynebu wrth bryderu y byddai'r llwybr yn gwahanu'r ddau le.
Ar gost o £85 miliwn, fe fyddai'r ffordd yn osgoi Caernarfon a Bontnewydd.
Bu galw ers blynyddoedd am ffordd newydd i osgoi Bontnewydd a Chaernarfon.
Dadl
Yn gyffredinol mae 'na groeso i'r cynllun, ond mae un rhan o'r llwybr arfaethedig yn destun dadl.
Mae Gweinidog Llywodraeth Leol Cymru, Carl Sargeant, a Chyngor Gwynedd yn ffafrio'r hyn a elwir yn llwybr porffor, sef bod y ffordd yn ymuno â ffordd osgoi'r Felinheli ar ei rhan uchaf.
Ond mae llawer o drigolion Bethel a'r Felinheli yn ffafrio'r llwybr melyn, dechrau'r ffordd osgoi newydd yng nghylchfan Plas Menai.
Mae'r gwrthwynebwyr yn dweud byddai'r llwybr porffor yn golygu cau'r ffordd bresennol sy'n cysylltu'r Felinheli a Bethel.
Bwriad Llywodraeth Cymru yw dechrau'r gwaith ar ddiwedd 2015.
Y gweinidog fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol wedi ymchwiliad cyhoeddus.
Straeon perthnasol
- Published
- 12 Hydref 2012
- Published
- 5 Gorffennaf 2012
- Published
- 5 Mehefin 2012
- Published
- 9 Mawrth 2010
- Published
- 11 Tachwedd 2010