Cyngor Sir Ddinbych o blaid codi 1,000 yn fwy o dai
- Published
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi pleidleisio o blaid codi 1,000 o dai ychwanegol fydd yn rhan o Gynllun Datblygu Lleol.
Er gwaetha' gwrthwynebiad o'r oriel gyhoeddus, penderfynodd cynghorwyr fabwysiadu 21 o safleoedd newydd.
Roedd y cyfarfod yn siambr y cyngor yn Rhuthun.
Gofynnwyd i'r cyngor ddod o hyd i fwy o safleoedd am fod arolygwyr cynllunio wedi dweud nad oedd digon yn y cynllun gwreiddiol.
Bydd y safleoedd yn cael eu cyflwyno i'r arolygwyr.
'Pwysau mawr'
Dywedodd arweinydd y cyngor, Huw Evans: "Mae 'na bwysau mawr ar awdurdodau lleol ... y Cynulliad sy'n gosod y targedau."
Nifer fach o dai sydd yn rhai o'r cynlluniau ond mewn safleoedd trefol mae na fwy, er enghraifft 172 yn Llanelwy.
Cafwyd 280 o wrthwynebiadau i'r cynllun dadleuol ac roedd cyfarfod cyhoeddus yn Ninbych yn erbyn y cynllun.
Dywedodd y cabinet fod angen Cynllun Datblygu Lleol "amserol" ar gyfer y sir a'u bod yn derbyn yr adroddiad a'r argymhellion oedd yn ymateb i'r ymgynghoriad.
7,500 o dai
Roedd arolygwyr cynllunio wedi dweud bod angen y cartrefi i "ddiwallu anghenion y sir".
Mae rhai gwrthwynebwyr wedi dweud nad oes angen y tai ac y bydden nhw'n amharu ar gymunedau gwledig.
Roedd gan y cyngor darged blaenorol i godi 7,500 o dai, gan gynnwys treblu maint pentre' Bodelwyddan.
Mae 67% o'r holl dai newydd sydd eisoes wedi eu codi ers cychwyn y cynllun datblygu lleol yn 2006 ar dir brown.
Straeon perthnasol
- Published
- 20 Tachwedd 2012
- Published
- 20 Tachwedd 2012
- Published
- 9 Tachwedd 2012