Gohirio gêm Wrecsam yn Alfreton
- Cyhoeddwyd

Mae gêm oddi cartref Clwb Pêl-droed Wrecsam nos Fawrth wedi cael ei gohirio oherwydd bod y cae o dan ddŵr.
Penderfynwyd gohirio'r ornest ym Maes Impact yn Alfreton wedi i swyddogion gael golwg ar y cae.
Bydd y gêm yn cael ei hail chwarae yn ddiweddarach yn y tymor.
Mae Wrecsam yn y pedwerydd safle yn Uwchgynghriar y Blue Square, dri phwynt y tu ôl i Gasnewydd sydd ar y brig.
Straeon perthnasol
- 1 Rhagfyr 2012
- 27 Hydref 2012
- 13 Hydref 2012
- 9 Hydref 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol