Cyhuddo llanc ar ôl i fysiau cwmni Bws Casnewydd losgi
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gwent wedi cyhuddo bachgen 15 oed ar ôl tân yng nghanolfan cwmni Bws Casnewydd.
Cafodd tri bws a cherbyd hyfforddi eu dinistrio yn y digwyddiad ddydd Llun.
Mae 'na dri chyhuddiad, gan gynnwys cynnau tân yn fwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd.
Mae dau gyhuddiad arall yn ymwneud ag achosion eraill.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r ganolfan ar Corporation Road tua 2:55am fore Llun.
Anfonwyd criwiau tân o Falpas, Maendy a Dyffryn, ynghyd â thanceri dŵr o Gwmbrân.
Fe gymerodd hi ychydig llaw nag awr i ddiffodd y fflamau, yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Chafodd neb ei anafu yn y digwyddiad.
Mewn datganiad, dywedodd rheolwr gyfarwyddwr cwmni Bws Casnewydd, Scott Pearson, eu bod wedi colli dau fws sengl ac un bws deulawr, yn ogystal â lori nwyddau trymion oedd yn cael ei defnyddio ar gyfer hyfforddiant.
Fe gychwynodd y tân yn rhan uchaf y ganolfan, ble mae'r cerbydau yn cael eu glanhau ac yn cael tanwydd.
Straeon perthnasol
- 3 Rhagfyr 2012