Milwr wedi ei anafu wedi ymarferiad milwrol yn Sir Benfro
- Published
Mae milwr wedi ei cael ei anafu'n ddifrifol yn ystod ymarferiad milwrol yn Sir Benfro.
Deellir bod y dyn wedi ei anafu ddydd Mawrth yng Nghastellmartin ger Penfro.
Roedd cerbydau yn rhan o'r digwyddiad.
Cafodd y milwr ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd gydag anafiadau i'w frest.
Mewn datganiad dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn bod "un milwr wedi ei anafu'n ddifrifol wedi digwyddiad yng Nghastellmartin".
"Mae 'na ymchwiliad yn cael ei gynnal ac nid yw'n briodol i ni wneud sylw pellach ar hyn o bryd."
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol