Argyfyngau: 'Angen cydgysylltu'n well'
Gan John Stevenson
Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru
- Published
Mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn fwy clir am eu rhan yn y gwaith o gydgysylltu mewn argyfyngau ac mae angen hefyd i sefydliadau ymateb yn fwy effeithlon.
Dyna farn Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Thomas, mewn adroddiad yn dilyn archwiliad o'r ffordd mae'r trefniadau argyfwng yn cael eu gweithredu yng Nghymru.
Ym marn y Swyddfa Archwilio, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth effeithiol iawn i'r ymatebwyr Categori Un - sef y prif asiantaethau sy'n ymateb i argyfyngau sifil.
Ond mae 'na broblem gan nad yw pwerau yn ymwneud ag argyfyngau sifil wedi'u datganoli.
'Mwy o eglurder'
Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas: "Dylai'r rhai sy'n ymateb i argyfyngau sifil yng Nghymru gael eu canmol am reoli digwyddiadau mawr yn effeithiol, ac mae'r llifogydd diweddar ar hyd a lled Cymru yn tanlinellu pwysigrwydd canfyddiadau'r adroddiad.
"Fodd bynnag, mae angen cael mwy o eglurder ynghylch swyddogaeth Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru o ran goruchwylio trefniadau ar gyfer argyfyngau sifil.
"Mae angen i ymatebwyr Categori Un hefyd fod yn fwy rhagweithiol o ran eu perfformiad, eu heffeithlonrwydd a'u defnydd o adnoddau fel y gellir rhoi sicrwydd i aelodau'r cyhoedd y byddant yn parhau i gael eu hamddiffyn o gofio maint yr heriau sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus.'
Yn ôl Mr Thomas gwariodd awdurdodau lleol £4 miliwn ar gynllunio at argyfwng yn 2010-11 ond nid ydynt bob amser yn blaenoriaethu gwariant i'r meysydd hynny lle ceir y risg fwyaf o argyfyngau sifil.
Ychwanegodd: "At hynny, gyda chyfnodau ariannol anodd o'n blaenau, mae'n bosibl y bydd awdurdodau lleol yn cyfeirio eu gwariant i flaenoriaethau eraill.
"Mae toriadau gwariant yn y dyfodol hefyd yn debygol o gael effaith fawr ar allu ymatebwyr Categori Un i gynnal a gwella'r gwasanaeth hwn, gyda'r heddlu a'r gwasanaethau tân ac achub eu hunain yn bwriadu gostwng eu gwariant cyffredinol o ychydig dros £100 miliwn yn ystod y pedair blynedd hyd at 2014-15."
Wyth argymhelliad
Mae Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bellach yn adolygu opsiynau i roi trefniadau cynllunio at argyfwng ar waith yn rhanbarthol ar ôl Adolygiad Simpson yn 2011.
Mae tystiolaeth yn adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn cefnogi'n gryf y penderfyniad i gynnwys awdurdodau lleol, y gwasanaeth iechyd, yr heddlu, a gwasanaethau tân ac achub yn yr ad-drefnu hwn, ac y dylai trefniadau ar gyfer argyfyngau sifil yn y dyfodol fod yn fwy cadarn ac effeithlon.
Mae'r adroddiad yn gwneud wyth argymhelliad, gan gynnwys y canlynol:
- Mae angen i Lywodraeth Cymru weithio'n agosach gyda Swyddfa'r Cabinet i gryfhau trefniadau i oruchwylio sut y caiff Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 ei gweithredu.
- Angen i ymatebwyr Categori Un gymryd perchenogaeth dros eu perfformiad yn unol â chanllawiau statudol Swyddfa'r Cabinet.
- Mae angen i ymatebwyr Categori Un adolygu eu cynlluniau argyfwng yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn addas at y diben.
- Angen i ymatebwyr Categori Un sicrhau bod cofrestrau risg cymunedol yn nodi'r amrywiaeth llawn o risgiau a'u canlyniadau.
- Mae'r adroddiad yn ystyried gallu y trefniadau cynllunio at argyfwng i ymateb i argyfyngau a sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sefydliadau sy'n cyflawni'r swyddogaeth hon.
- Mae'r cyrff sector cyhoeddus sy'n gyfrifol am weithredu Deddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004 wedi'u trefnu'n bedwar Fforwm Lleol yn y De, y Gogledd, Gwent a Dyfed-Powys. Mae Cymru hefyd yn cydgysylltu gwasanaethau brys drwy'r Cyd-grŵp Gwasanaethau Brys ac yn gweithredu Fforwm Cymru Gydnerth, sef corff anstatudol a gaiff ei gadeirio gan Brif Weinidog Cymru.
- Swyddfa'r Cabinet sydd â chyfrifoldeb statudol cyffredinol am Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004, ond mae pob sefydliad sydd wedi'i ddynodi yn ymatebydd yn atebol yn unigol o dan y ddeddfwriaeth hon ac yn gyfrifol am ei berfformiad ei hun.
- Mae ymatebwyr Categori Un yn cynnwys yr heddlu, y gwasanaethau tân ac achub, y gwasanaeth iechyd ac awdurdodau lleol. Mae ymatebwyr Categori Dau yn cynnwys cyflenwyr nwy a thrydan, cwmnïau trafnidiaeth gyhoeddus a chwmnïau ffôn, a gweithredwyr meysydd awyr.
- Mae'r Groes Goch Brydeinig, Eglwysi yng Nghymru a Gwasanaeth Brenhinol Gwirfoddol y Merched ymhlith y sefydliadau gwirfoddol sydd wedi ymateb i argyfyngau sifil diweddar yng Nghymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn croesawu bod yr adroddiad wedi dweud bod y trefniadau sydd gan y llywodraeth mewn lle i ddelio ag argyfyngau sifil yn gyffredinol yn gweithio'n dda ac yn diogelu'r cyhoedd.
Straeon perthnasol
- Published
- 1 Rhagfyr 2012
- Published
- 22 Tachwedd 2012
- Published
- 22 Awst 2012