BBC Cymru Fyw

BT: Nam yn effeithio galwadau 999 yn ardal Wrecsam

Published
Mae nam ar linellau ffôn yn amharu ar y gwasanaeth galwadau brys 999 i 5,000 o gwsmeriaid BT yn ardal Wrecsam a Phontybodkin.
Mae Heddlu'r Gogledd yn annog pobol i ddefnyddio'u ffonau symudol i gysylltu â'r gwasanaethau brys am y tro.
Mae'r gwasanaeth yn ardal Caergwrle bellach wedi'i adfer yn llawn.
Dywed Heddlu Gogledd Cymru nad oeddent wedi derbyn unrhyw adroddiadau o ganlyniad i'r nam hyd yn hyn.