Tair damwain ar ran 800m o'r A48

  • Cyhoeddwyd

Cafodd pedwar o bobl eu hanafu mewn tair damwain ar ran 800m o'r A48 ger Caerfyrddin mewn llai na dwy awr ddydd Mercher.

Aed â thri pherson i'r ysbyty wedi'r gwrthdrawiad cyntaf rhwng tri cherbyd oedd yn teithio i gyfeiriad y dwyrain ger cylchfan Pensarn tua 5:20pm.

Cafodd un person ei anafu pan gafwyd gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd gerllaw am 6:30pm.

Roedd y gwrthdrawiad arall rhwng dau gerbyd am 6:40pm ond ni chafodd neb ei anafu.

Dywedodd Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru y gallai'r tywydd fod yn ffactor.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol