'Ditectifs amser' yn trafod trysorau yng Nghaernarfon
- Cyhoeddwyd

Mae sioe deithiol archaeolegol yn mynd i gastell enwog i helpu pobl leol adnabod gwrthrychau y maen nhw wedi dod o hyd iddyn nhw.
Tîm arbenigwyr archaeoleg a threftadaeth Cadw, corff henebion Llywodraeth Cymru, sy' yng Nghastell Caernarfon ddydd Sul.
Safle Treftadaeth Byd yw'r castell, un o'r 128 o henebion o dan ofal Cadw.
Y nod yw sôn am bwysigrwydd treftadaeth ac archwilio "trysorau lleol" y cafwyd hyd iddyn nhw mewn gerddi a pharciau lleol.
Mynediad am ddim
Mae yna fynediad am ddim i bob ymwelydd sy'n dod ag eitem i gael ei harchwilio.
Ymhlith y tîm mae arbenigwyr o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyngor Bwrdeistref Conwy, Prifysgol Bangor, Archaeoleg CR ac Archaeoleg EAS.
Roedd tref Caernarfon a'r cyffiniau ar un adeg yn ganolfan bwysig yng nghyfnod y Rhufeiniaid ac wedi hynny.
Dywedodd Adele Thackray, Warden Henebion Maes Cadw: "Mae'r digwyddiad yn gyfle gwych i arbenigwyr ac amaturiaid fel ei gilydd weithio fel ditectifs amser, a'n helpu i ddod o hyd i drysorau hanesyddol.
'Ym mhobman'
"Mae yna weithgareddau archaeolegol drwy'r dydd, gan gynnwys blwch cloddio archaeoleg a gweithdai cofnodi gwrthrychau o'r gorffennol.
"Mae'n bosibl dod o hyd i wrthrychau ym mhobman - hen geiniog wrth gerdded ar y traeth neu rywbeth rhyfedd wrth weithio yn yr ardd."
Mae'r sioe ddydd Sul rhwng 10am a 4pm yng Nghastell Caernarfon.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd3 Medi 2012
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2012