Remploy: Dwy ffatri o dan fygythiad yn Y Porth a Baglan
- Cyhoeddwyd

Mae AS wedi beirniadu'r modd y gwnaed cyhoeddiad am 140 o swyddi yn y fantol am fod dwy ffatri Remploy yng Nghymru o dan fygythiad.
Y ddwy ffatri yw'r rhai yn Y Porth, y Rhondda, a Baglan ger Port Talbot, lle mae gweithwyr yn wynebu diswyddiadau gorfodol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n benderfynol o gael hyd i gymaint o swyddi â phosib i'r rhai sy'n colli eu gwaith.
Gallai bron 900 gael eu diswyddo yn y Deyrnas Gyfun.
'Anhapus'
Dywedodd Ann Clwyd, AS Llafur Cwm Cynon: "Dwi'n anhapus â'r modd y gwnaed y cyhoeddiad.
"Yn lle ei wneud o ar lawr y Tŷ (Cyffredin), lle 'dan ni'n gallu holi'r gweinidog, mi gafodd datganiad ei roi yn llyfrgell (San Steffan).
"Mae'n amlwg nad ydyn nhw eisiau ateb cwestiynau am y peth. Maen nhw'n cuddio oddi wrthon ni."
Hyd yn hyn mae 34 o ffatrïoedd y cwmni wedi gorfod cau oherwydd cynllun ailstrwythuro Llywodraeth San Steffan.
Ym Mawrth cyhoeddodd y llywodraeth y byddai ffatrïoedd yn cau yn Aberdâr, Abertyleri, Pen-y-bont ar Ogwr, Croespenmaen, Merthyr Tudful, Abertawe a Wrecsam ac y byddai'r ffatrïoedd yn Y Porth a Baglan yn parhau ar agor.
Mwy effeithiol
Mynnu mae Llywodraeth Prydain fod modd gwario'r arian mewn ffyrdd mwy effeithiol i helpu pobl anabl i gael swyddi.
Bydd y ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sy'n cyflogi 46, yn cau ym mis Mawrth 2013.
Mae'r ffatri ym Maglan yn rhan o fusnes gelfi ac yn cyflogi 67 o bobl.
Eisoes mae Remploy wedi dweud eu bod yn gobeithio fod gan y ffatri ddyfodol.
Yn Y Porth mae'r ffatri yn ailgylchu cyfarpar cyfrifiadurol ac yn cyflogi 72 o bobl.
189
Caeodd pump o ffatrïoedd - yn Aberdâr, Abertyleri, Merthyr Tudful, Abertawe a Wrecsam - yn ystod yr haf gyda 189 o bobl yn colli'u gwaith.
Collodd 46 o bobl eu gwaith pan gaeodd y ffatri yng Nghroespenmaen, Sir Caerffili, ym mis Tachwedd.
Cafodd ffatrïoedd Remploy eu sefydlu 66 o flynyddoedd yn ôl.
Straeon perthnasol
- 18 Medi 2012
- 16 Awst 2012
- 26 Gorffennaf 2012
- 19 Gorffennaf 2012
- 8 Mawrth 2012
- 9 Mai 2012