Ffenestri: Cyfaddawd
- Cyhoeddwyd

Mae perchnogion gwestai yn Llandudno wedi croesawu'r newyddion na fydd rhaid iddyn nhw osod ffenestri newydd yn eu hadeiladau.
Yn gynharach eleni fe ysgrifennodd Cyngor Conwy at berchnogion yn dweud bod ffenestri uPVC yn groes i reolau a luniwyd er mwyn gwarchod cymeriad Fictorianaidd y dref.
Rhybuddiodd y cyngor eu bod am gymryd camau gorfodaeth i weithredu'r rheol.
Roedd hyn wedi codi gwrychyn llawer o'r perchnogion gan fod eu ffenestri wedi cael eu gosod hyd at 30 mlynedd yn ôl.
Cyfaddawd
Bellach mae'r awdurdod wedi cadarnhau na fydd ffenestri sydd wedi bod yn eu lle ers tro yn gorfod cael eu tynnu allan yn syth.
Yn dilyn cyfarfod rhwng y cyngor a'r perchnogion mae'r ddwy ochr wedi cytuno ar gyfaddawd.
Dywedodd y cyngor mewn datganiad: "Mewn adeiladau sydd wedi eu cofrestru a lle bo'r gwaith wedi ei wneud gan berchnogion blaenorol, bydd yr awdurdod cynllunio lleol yn cyfathrebu'n uniongyrchol gyda'r perchnogion er mwyn dod o hyd i ateb drwy drafodaeth.
"Nod y cyngor yw bod y perchnogion yn cytuno i adfer ffenestri mewn steil Fictorianaidd y tro nesaf y bydd y ffenestri'n cael eu newid."
Yn achos adeiladau sydd ddim wedi'u cofrestru ni fydd unrhyw weithredu os cafodd y ffenestri eu gosod fwy na phedair blynedd yn ôl.
Ond byddai perchnogion yn cael eu hannog i gael ffenestri priodol y tro nesaf y bydd newid yn y ffenestri.
'Cymodol'
Roedd yr Aelod Seneddol lleol, y Ceidwadwr Guto Bebb, wedi trefnu cyfarfodydd rhwng y ddwy ochr.
"Rwy'n falch bod y cyngor yn symud ymlaen mewn ffordd fwy cymodol.
"Gobeithio y gallwn symud ymlaen yn bositif ond hefyd mewn ffordd sy'n cydnabod yr heriau sy'n wynebu busnesau yn yr hinsawdd economaidd bresennol."
Dywedodd un perchennog, Michael Thompson: "Mae hwn yn gam yn y cyfeiriad cywir.
"Ond mae llawer o waith i'w wneud eto. Mae ein gwesteion yn disgwyl ystafelloedd cyffyrddus heb ddrafftiau.
"Bydd rhaid i ffenestri newydd fod mor ynni-effeithlon a gwrthsain a'r rhai uPVC presennol sydd gennym ar hyn o bryd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2011