Carcharu gyrrwr tacsi am 15 mlynedd
- Cyhoeddwyd

Mae gyrrwr tacsi wedi ei garcharu am 15 mlynedd am yrru ei gerbyd at wyth o ddynion yng Nghaerdydd.
Yn Llys y Goron Caerdydd cafwyd Majid Rehman, 29 oed, yn euog o 14 o gyhuddiadau, gan gynnwys pum cyhuddiad o ymosod wrth achosi niwed corfforol
Fe yrrodd ei dacsi at griw o ddynion oherwydd ffrae mewn gorsaf reilffordd.
Clywodd y llys fod Rehman wedi gyrru'n gyflym at chwech o weithwyr rheilffordd wrth iddyn nhw adael yr orsaf.
Cafodd dau o ddynion eraill hefyd eu hanafu.
Dywedodd y Barnwr Phillip Richards: "Eich bwriad oedd achosi niwed difrifol i'r dynion. Mae eich ymddygiad yn annerbyniol mewn cymdeithas waraidd."
Golau coch
Dywedodd Claire Wilks ar ran yr erlyniad fod ffrae rhwng y gweithwyr rheilffordd a Rehman.
"Fe adawodd y dynion ond mae'n debyg nad oedd Rehman yn fodlon.
"Fe yrrodd ei dacsi at y dynion ac, yn ôl un llygad-dyst, aeth drwy olau coch.
Yn ôl yr heddlu, roedd y diffynnydd wedi dweud: "Does neb yn gyrru at bobl heb reswm. Fe ymosodon nhw arna' i ac roeddwn yn amddiffyn fy hun."
Clywodd y llys fod Rehman wedi rhoi tystiolaeth yn erbyn un o'r gweithwyr mewn achos lladrata yn 2009.
Roedd dau ddyn, nad oedd yn rhan o'r ffrae, Mark Underwood a Richard Partridge, yn cerdded o flaen y gweithwyr rheilffordd.
Dywedodd Miss Wilks: "Roedd y weithred yn fwriadol.
"Roedd rhai o'r dynion yn fwy ffodus na'i gilydd.
Triniaeth
"Cafodd Mark Underwood ei ddal yn sownd o dan y tacsi a chafodd losgiadau ar ei gefn, coesau a'i freichiau gan ei fod yn gorwedd yn agos at injan boeth."
Clywodd y llys fod Mr Underwood wedi cael triniaeth helaeth a'i fod dal i gael triniaeth.
Roedd Rehman o Grangetown, Caerdydd, wedi pledio'n euog i gyhuddiad o yrru'n beryglus ond wedi gwadu pum cyhuddiad o ymosod, gan achosi niwed corfforol, a phedwar cyhuddiad o geisio achosi niwed corfforol difrifol.
Roedd hefyd wedi gwadu dau gyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol gyda bwriad, un cyhuddiad o anafu ac un cyhuddiad o anafu gyda bwriad.
Cafodd ei wahardd rhag gyrru am 10 mlynedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2012