Llai yn siarad Cymraeg yn ôl ystadegau Cyfrifiad 2011

Gwersi Cymraeg
Image caption Canlyniadau Cyfrifiad 2011: llai yn siarad Cymraeg nag yn 2001

Mae 'na gwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru yn ôl canlyniadau Cyfrifiad 2011.

Yn 2001 roedd 20.5% yn nodi eu bod yn gallu siarad Cymraeg ac yn 2011 roedd y ffigwr gyfatebol yn 19.0%.

Er bod poblogaeth Cymru wedi tyfu ers Cyfrifiad 2001, mae nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng o 582,000 yn 2001 i 562,000 yn 2011 o boblogaeth o 2,955,841 sydd dros dair oed.

Cafodd y wybodaeth ei chyhoeddi gan Y Swyddfa Ystadegau Gwladol wrth iddyn nhw ryddhau mwy o wybodaeth o ganlyniadau Cyfrifiad 2011.

Mae 'na ostyngiadau sylweddol yn yr ardaloedd Cymraeg traddodiadol wrth i'r cwymp mwya fod yn Sir Gaerfyrddin.

Dim ond yng Ngwynedd ac Ynys Môn y mae dros hanner y boblogaeth yn siarad yr iaith bellach.

Yn Sir Gaerfyrddin 43.9% sy'n gallu siarad Cymraeg yn 2011 (50.3% yn 2001).

Nododd yr ystadegydd Peter Stokes o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol bod awdurdodau lleol eraill yn y gorllewin, Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Powys, Ceredigion, Penfro, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot i gyd wedi gweld gostyngiad o 2% neu fwy yng nghyfran y siaradwyr Cymraeg.

Sefydlogrwydd y brifddinas

Roedd y gostyngiadau yng nghyfrannau'r bobl sy'n gallu siarad Cymraeg yn llai ar gyfer awdurdodau dwyrain Cymru.

Dywedodd bod cynnydd yn nifer y bobl yng Nghaerdydd sy'n gallu siarad Cymraeg o 32,500 yn 2001 i 36,700 yn 2011 ond roedd cynnydd sylweddol ym mhoblogaeth Caerdydd yn gyffredinol dros yr un cyfnod yn golygu bod cyfran y rhai sy'n gallu siarad Cymraeg yn y brifddinas wedi aros yn weddol sefydlog (11.1% yn 2011, 11.0% yn 2001).

"Bu cynnydd o tua 1,000 yn nifer y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg, yng Nghaerffili, er bod y gyfran wedi aros yr un fath yno," eglurodd.

"Bu cynnydd bach yn Sir Fynwy yng nghyfran y bobl sy'n siarad Cymraeg o 9.3% yn 2001 i 9.9% yn 2011."

Roedd 80% o bobl Cymru rhwng 45 a 49 oed yn dweud nad oedd ganddyn nhw unrhyw sgiliau mewn Cymraeg gyda 47% rhwng 10 a 14 oed yn dweud nad oedd ganddyn nhw ddim sgiliau Cymraeg.

Roedd y nifer mwyaf o bobl heb sgiliau mewn Cymraeg ym Mlaenau Gwent (88%) a dywedodd dros 95% o'r rhai dros 25 oed a 52% o'r rhai rhwng 10 a 14 oed nad oedd ganddyn nhw unrhyw allu mewn Cymraeg.

Ystadegau Sgiliau iaith Gymraeg rhai dros 3 oed (Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Roedd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi rhybuddio cyn i'r ystadegau gael eu cyhoeddi mai'r her nesaf i'r Gymraeg yw sicrhau bod pobl yn ei siarad y tu allan i'r dosbarth.

GWYBODAETH O'R GYMRAEG
Pob preswylydd arferol tair oed a throsodd Dim sgiliau Cymraeg(%) Gallu deall Cymraeg lafar yn unig (%) Gallu siarad Cymraeg (%) Gallu siarad Cymraeg ond ddim yn gallu darllen nac ysgrifennu Cymraeg (%) Gallu siarad a darllen Cymraeg on ddim yn gallu ysgrifennud Cymraeg (%) Gallu siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg (%) Cyfuniad arall o sgiliau Cymraeg(%)
CYMRU 2,955,841 73.3 5.3 19.0 2.7 1.5 14.6 2.5
Abertawe 231,155 80.7 5.5 11.4 2.0 1.2 8.1 2.6
Blaenau Gwent 67,348 88.5 2.2 7.8 1.5 0.6 5.5 1.7
Bro Morgannwg 122,018 83.7 3.3 10.8 1.6 0.9 8.2 2.2
Caerdydd 332,273 83.8 3.1 11.1 1.4 0.8 8.7 2.1
Caerffili 171,972 83.9 3.0 11.2 1.7 0.9 8.4 2.1
Caerfyrddin 177,642 41.9 11.7 43.9 6.7 4.2 32.8 2.8
Casnewydd 139,849 86.9 2.2 9.3 1.7 0.7 6.5 1.8
Castell-nedd Port Talbot 135,278 75.2 6.4 15.3 2.7 1.6 10.8 3.3
Ceredigion 73,847 42.2 8.1 47.3 4.9 3.4 38.8 2.4
Conwy 111,724 60.6 9.5 27.4 4.1 2.4 20.6 2.7
Dinbych 90,527 64.6 8.5 24.6 3.6 2.2 18.6 2.6
Fflint 146,940 79.4 5.1 13.2 2.4 1.2 9.3 2.5
Gwynedd 117,789 26.5 6.9 65.4 5.8 3.4 56.0 1.5
Merthyr 56,623 84.9 3.5 8.9 1.5 0.7 6.5 2.8
Mynwy 88,609 86.0 2.5 9.9 1.8 0.7 7.2 1.9
Penfro 118,392 72.5 6.1 19.2 3.2 1.9 13.9 2.3
Pen-y-bont ar Ogwr 134,545 82.7 4.1 9.7 1.5 0.9 7.3 3.6
Powys 129,083 72.0 6.7 18.6 3.0 1.6 13.7 3.0
Rhondda Cynon Taf 225,555 80.4 4.2 12.3 1.6 0.9 9.7 3.3
Torfaen 87,844 86.5 2.3 9.8 1.8 0.7 7.1 1.7
Wrecsam 129,425 78.7 5.9 12.9 2.3 1.2 9.2 2.7
Ynys Môn 67,403 30.4 10.7 57.2 7.0 4.3 45.6 1.9

Hefyd ar y BBC