'Codi proffil'
- Cyhoeddwyd
Mae corff cofrestru'r Deyrnas Gyfun ar gyfer cyfeiriadau'r we, Nominet, wedi lansio ymgynghoriad.
Yn gynharach eleni awgrymodd Nominet i Icann, y corff rhyngrwyd rhyngwladol, y dylid defnyddio '.cymru' a '.wales'.
Dywedodd Nominet fod yr ymgynhoriad yn "gyfle i bobl Cymru 'r gymuned Gymreig ddweud wrthym sut maen nhw am i'r parthau newydd weithio".
Yng nghinio blynyddol Sefydliad y Cyfarwyddwyr yng Nghaerdydd ddydd Gwener dywedodd Cadeirydd Nominet, y Farwnes Rennie Fritchie: "Bydd y parthau newydd yn chwarae rôl bositif wrth godi proffil brand Cymru a sicrhau presenoldeb uwch i Gymru ar y we".
Dywedodd Nominet eu bod am wybod:
- A ddylai fod cyswllt rhwng .cymru a .wales ac os felly, sut y gallai'r cyswllt weithio?
· A ddylai fod unrhyw gyfyngiadau ar bwy sy'n gallu cofrestru parthau .cymru neu .wales?
· Beth yw'r ffordd orau i reoli parthau Cymraeg?
Mae ymgynghoriad Nominet yn parhau tan Chwefror 28, 2013.
Deellir y gallai'r ceisiadau i Icann ar gyfer enwau unigol gostio hyd at £120,000 yr un.
Eisoes mae Llywodraeth Cymru wedi dweud na fyddan nhw'n talu am unrhyw geisiadau.
Straeon perthnasol
- 23 Rhagfyr 2011
- 9 Tachwedd 2011
- 3 Tachwedd 2010
- 6 Awst 2008