Rhewi recriwtio staff llu heddlu
- Cyhoeddwyd
Mae comisiynnydd heddlu newydd Dyfed Powys wedi cadarnhau na fydd yn cyflogi aelodau newydd o staff o heddiw ymlaen.
Nid yw'r gwaharddiad yn cynnwys heddweision na swyddogion cymunedol.
Yn ôl y comisiynnydd, Christopher Salmon, mae angen i bawb gwneud arbedion.
Enillodd Mr Salmon, sy'n Geidwadwr, yn erbyn yr ymgeisydd Llafur Christine Gwyther yn yr etholiad ar gyfer comisiynnydd cyntaf y llu wedi'r cyfri yn Abergwaun ar Dachwedd 16.
Y comisiynwyr sy'n gosod agenda ar gyfer y llu, goruchwylio'r gyllideb a phenodi neu ddiswyddo'r prif gwnstabl.
Ddydd Gwener dywedodd Mr Salmon: "Gan gychwyn heddiw, rwyf yn rhewi recriwtio staff heddlu ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys.
"Ni fydd hyn yn effeithio ar recriwtio swyddogion heddlu na swyddogion cefnogi cymunedol yr heddlu.
"Cadarnhaodd datganiad y Canghellor ddydd Mercher mor anodd yw'r amseroedd hyn ac y byddai'r pwysau ar gyllid cyhoeddus yn cynyddu.
"Does neb yn ddiogel rhag llymder a bu'n rhaid i'r gwasanaeth heddlu chwarae ei ran wrth helpu i fynd i'r afael â'r diffyg.
"Byddaf yn ystyried pob opsiwn ar gyfer lleihau costau, ac ar yr un pryd, yn cyflwyno gwasanaeth plismona effeithiol ar gyfer pobl Dyfed-Powys.
"Mae angen i ni ailstrwythuro'r modd yr ydym yn cynnal ein busnes er mwyn cwrdd â'r heriau hyn a gofynion newidiol ein cyfnod.
"Ar ôl cyfarfod â swyddogion a staff dros yr wythnosau diwethaf, rwy'n gwbl ffyddiog y medrwn wneud hyn."
Straeon perthnasol
- 22 Tachwedd 2012
- 16 Tachwedd 2012
- 13 Tachwedd 2012