BBC Cymru Fyw

Damwain: Tri yn yr ysbyty

Published

Mae tri o bobl wedi cael eu cludo i'r ysbyty yn dilyn damwain ger Clwb Golff Yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd brynhawn dydd Gwener.

Derbyniodd diffoddwyr tân alwad ynglŷn â'r ddamwain ddigwyddodd rhwng dau gar ar Manor Way am 1:16pm.

Bu'n rhaid i ddiffoddwyr dorri menyw yn rhydd o un o'r ceir.