Annog pobl i wylio'r drudwyod
- Cyhoeddwyd

Mae'r RSPB yn annog pobl i wylio un o "uchafbwyntiau'r gaeaf", sef drudwyod yn heidio at ei gilydd.
Wrth iddi dywyllu, mae miloedd o'r adar yn dod at ei gilydd cyn clwydo am y noson.
Ymhlith y llefydd gorau i'w gweld yng Nghymru mae'r pier yn Aberystwyth neu safleoedd yr RSPB yng Nghonwy a Gwlypdiroedd Casnewydd.
Dywedodd Bethan Lloyd, Swyddog Cyfathrebu'r RSPB: "Mae gwylio miloedd o ddrudwyod yn symud ar draws yr awyr yn brofiad bythgofiadwy.
"Mae'n dechrau gyda grwpiau bychan yn raddol ymuno gyda'i gilydd ac yn troi a throelli uwchben, cyn plymio i'w man nythu.
"Mae'n bendant yn un o'r golygfeydd naturiol mwyaf godidog."
40 miliwn
Yng Nghymru mae nifer y drudwyod wedi gostwng 70% rhwng 1995 a 2010.
Mae ffigyrau'n dangos bod 40 miliwn o ddrudwyod wedi diflannu o'r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys y DU, ers 1980.
Yn ôl Ms Lloyd: "Mae eu niferoedd yn disgyn yn frawychus.
"Maent i'w gweld yng ngerddi drwy'r wlad ond mae eu gweld nhw'n dod at ei gilydd wrth iddi nosi yn bleser go iawn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2012