Llifogydd: Cannoedd heb yswiriant?
- Cyhoeddwyd

Mae AS Ceidwadol wedi dweud ei fod yn poeni y gallai cannoedd o berchnogion tai fod heb yswiriant neu wynebu costau uwch os nad yw Llywodraeth San Steffan yn dod i gytundeb gydag yswirwyr.
Yn ôl Jonathan Evans, AS Gogledd Caerdydd a Chadeirydd y Grŵp Yswiriant Trawsbleidiol, mae trafodaethau wedi parhau am fwy na dwy flynedd.
Dywedodd ar raglen Sunday Politics BBC Cymru: "Bydd y cytundeb yn dod i ben ym Mehefin a does neb yn credu y bydd yn cael ei adnewyddu."
Yn ôl y cytundeb gafodd ei lunio yn 2008, mae angen i gwmnïau gynnig yswiriant i bob adeilad lle mae risg uchel.
Ochr arall y fargen oedd bod y llywodraeth yn addo gwella amddiffynfeydd llifogydd.
Yn ystod y trafodaethau mae Cymdeithas Cwmnïau Yswiriant Prydain wedi galw ar y llywodraeth i rannu'r baich ariannol yn achos ardaloedd sy'n wynebu risg uchel o lifogydd.
Y diffiniad yw risg o fwy nag un llif mewn 75 o fewn blwyddyn.
Gwrthod
Eisoes, mae gweinidogion San Steffan, meddai Mr Evans, wedi gwrthod un o gynigion y gymdeithas.
Y cynnig oedd bod y Trysorlys yn rhoi gorddrafft di-log dros dro i'r diwydiant fel y gallai ddygymod ag unrhyw achosion brys ym mlynyddoedd cyntaf unrhyw drefniant newydd.
Dywedodd Mr Evans y gallai taliadau yswiriant rhai mewn ardaloedd risg uchel ddyblu os na fydd cytundeb.
Yr wythnos ddiwetha' dywedodd Ysgrifennydd Amgylchedd San Steffan, Owen Paterson, fod y trafodaethau yn parhau.
"Rydym am sicrhau gwell system yswiriant, un sy'n fforddiadwy ond heb roi gormod o faich ar y trethdalwr.
"Ar hyn o bryd mae angen i'r cwmnïau yswiriant ymateb."
Straeon perthnasol
- 28 Tachwedd 2012
- 23 Hydref 2012
- 30 Gorffennaf 2012