Cyhuddo dyn 26 oed o dreisio
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru wedi cyhuddo dyn 26 oed o dreisio wedi ymosodiad difrifol ar ferch 15 oed ar lwybr beicio ar Dachwedd 25.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig tua 5pm ar ddydd Sul ar y rhan o'r llwybr sy'n cysylltu Pontycymmer a Phontrhyl ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Ymosodwyd ar y ferch gan ddyn wrth iddo deithio ar feic ar hyd y llwybr.
Mae'r heddlu yn parhau i apelio ar i unrhyw un a oedd ar y llwybr beicio tua 5pm nos Sul, a allai fod wedi gweld dyn ar ei feic yn ymddwyn yn amheus, i gysylltu â nhw.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r swyddfa heddlu ym Mhen-y-bont ar 101, neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol