Mogliano 0-33 Dreigiau
- Cyhoeddwyd

Yn ei chanol hi: Andy Tuilagi
Mogliano 0-33 Dreigiau
Cafodd y Dreigiau fuddugoliaeth ysgubol yng Nghwpan Her Amlin er i Jevon Groves gael cerdyn coch oherwydd tacl anghyfreithiol ychydig cyn yr egwyl.
Roedd hi fel traffig un-ffordd yn Stadio Maurizio Quaggia.
Croesodd y canolwr Andy Tuilagi y llinell wedi dim ond saith munud a sgoriodd Ieuan Jones yn fuan wedyn.
Trosodd Tom Prydie.
Bedair munud wedi'r egwyl sgoriodd Jones gais arall cyn i gyfanswm Prydie gyrraedd cyfanswm o 11 o bwyntiau.
Pum cais i'r Cymry a phwynt bonws.