Wrecsam 6-1 Nuneaton
- Published
Wrecsam 6-1 Nuneaton
Mae Wrecsam yn ail ac yn uwch na Chasnewydd wedi iddyn nhw roi crasfa i Nuneaton.
Roedd hi'n 3-0 ar yr egwyl - Johnny Hunt yn rhwydo o 20 llath cyn i'r rheolwr Andy Morrell a Neil Ashton benio.
Taniodd Robert Ogleby o ymyl y cwrt cosbi ac Adrian Cieslewicz oedd biau'r bumed o 35 llath.
Roedd cic gosb Ashton wedi i Adam Walker droseddu yn erbyn Dean Keates yn goron ar y cyfan.
Perfformiad campus ar wahân i'r 20 munud gynta'.
Kidderminster 3-2 Casnewydd
Mae Casnewydd wedi ildio eu lle ar frig y gynghrair wrth i Jamille Matt sgorio tair gôl yn erbyn y Cymry.
Roedd Casnewydd 2-1 ar y blaen ar yr egwyl oherwydd goliau Michael Smith a Lee Evans.
Tri phwynt arall i Kidderminster sy' wedi ennill pum gêm yn olynol.
Straeon perthnasol
- Published
- 27 Hydref 2012
- Published
- 13 Hydref 2012
- Published
- 9 Hydref 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol