Hiliaeth: Arestio cefnogwr Clwb Pêl-droed Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae un o gefnogwyr Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymddwyn yn hiliol tuag at un o chwaraewyr Norwich.
Cafodd y dyn 23 oed ei arestio yn Stadiwm y Liberty ddydd Sadwrn ar ôl cwyn amddiffynwr Norwich, Sebastien Bassong.
Collodd Abertawe 4-3.
Roedd y drosedd honedig wedi i Robert Snodgrass sgorio'r bedwaredd gôl.
Cwynodd Bassong wrth y dyfarnwr Howard Webb gyfeiriodd y mater i swyddog cyn i'r cefnogwr gael ei arestio.
'10 munud'
Dywedodd llefarydd ar ran Clwb Pêl-droed Abertawe: "O fewn 10 munud roedd stiwardiaid yn gwylio'r lluniau teledu ac yn adnabod y troseddwr honedig ...
"Yr heddlu sy'n delio â hyn. O safbwynt y clwb mae hiliaeth yn ffiaidd ac rydyn ni ers blynyddoedd wedi ceisio sicrhau bod hwn yn glwb ar gyfer y teulu."
Dywedodd rheolwr Norwich, Chris Hughton: "Dwi wedi siarad â Seb ac mae Abetawe wedi delio â hyn yn gywir."
Mae rheolwr Abertawe, Michael Laudrup, wedi dweud: "Ar y pryd roeddwn i'n canolbwyntio ar y gêm.
"Doeddwn i ddim yn gwybod am y drosedd honedig ond does dim angen hyn yn y gêm, ddim yn unman."
Straeon perthnasol
- 8 Rhagfyr 2012