Gleision 24-35 Montpellier

  • Cyhoeddwyd
Lloyd Williams
Disgrifiad o’r llun,
Trobwynt y gêm: Cafodd y mewnwr Lloyd Williams gerdyn coch

Collodd y Gleision i'r Ffrancod ym Mharc yr Arfau wrth i'r mewnwr Lloyd Williams gael cerdyn coch.

Roedd yn argoeli bod yn ornest anodd ond roedd yn dalcen caled wedi'r dacl anghyfreithlon ar Benoit Paillaugue wdi 25 o funudau.

Bydd panel disgyblu yn penderfynu tynged Williams ac mae'n bosib' y bydd yn cael ei wahardd.

Sgoriodd Yoan Audrin, Mamuka Gorgodze a Timoci Nagusa geisiadau i'r Ffrancod. Trosodd Paillaugue a chicio chwe chic gosb.

Dangosodd y Cymry ddigon o gymeriad er iddyn nhw golli dyn ac roedd Rhys Patchell yn llywio'n ddeheuig.

Ciciodd y maswr 19 oed holl bwyntiau'r Gleision - saith gic gosb ac un gic adlam.

Perfformiad unigol trawiadol ond ymgyrch y tîm yn Ewrop ar ben.