Pwerdy: Amheuon am system oeri

  • Cyhoeddwyd
Pwerdy Penfro
Disgrifiad o’r llun,
Y pwerdy: Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi ysgrifennu at Lywodraeth Prydain

Gallai pwerdy Penfro orfod newid ei system oeri dŵr gan fod ofnau am effeithiau'r dechnoleg ar fyd natur.

Mae dogfen sydd wedi dod i ddwylo BBC Cymru yn dweud bod y Comisiwn Ewropeaidd yn poeni cymaint nes bod llythyr swyddogol, sy'n gofyn am egluro'r troseddu honedig, wedi ei anfon at Lywodraeth Prydain.

Mae'r comisiwn yn rhestru 18 trosedd a phedair deddf Ewropeaidd a allai fod wedi eu torri yn yr achos cynta' o'i fath yn erbyn pwerdy ym Mhrydain.

Ond mae RWE npower, gododd y pwerdy, wedi dweud eu bod wedi craffu ar ddatblygu'r pwerdy.

Cafodd y pwerdy ei agor dri mis yn ôl ac mae wedi costio biliwn o bunnau i'w adeiladu.

'Miliynau o bysgod'

Dywedodd Joe Hennon, llefarydd amgylchedd y comisiwn: "Rydyn ni'n poeni am y system oeri ... mae dŵr yn dod i mewn un pen ac yn cael ei bwmpio y pen arall.

"Pan mae'r dŵr yn cael ei arllwys i mewn i'r aber mae'r tymheredd wyth gradd yn uwch ac mae potensial i filiynau o bysgod gael eu sugno i mewn.

"Fel arfer, dylai'r DU fod wedi cynnal asesiad oherwydd bod y pwerdy mewn safle cadwraeth."

Mae pryderon y comisiwn wedi eu seilio ar gyngor gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru.

Ers wyth mlynedd mae gwyddonwyr y CCGC wedi cyfeirio at effaith debygol adeiladu'r math hwn o bwerdy ar safle cadwraeth forol.

Mae'r comisiwn wedi rhestru'r 18 o reolau a allai fod wedi eu torri mewn nodyn troseddu ac yn sôn am dorri deddfau amddiffyn cynefinoedd, defnydd o nitradau, rheoli llygredd ac asesu effeithiau amgylcheddol.

Niweidio

Hefyd mae ymchwil wedi dangos y gallai miliwn o bysgod gael eu niweidio o fewn rhyw dair wythnos oherwydd y dŵr a dynnir o Afon Cleddau i oeri pum tyrbin er mwyn cynhyrchu trydan.

Disgrifiad,

Gareth Glyn yn holi Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru, Iolo ap Dafydd

Gallai tri neu bedwar biliwn o bysgod bach, pysgod cregyn a chynrhon morol bob blwyddyn gael eu lladd wrth gael eu sugno i mewn i'r system ddŵr.

Ond mewn cyfweliad fis Mai dywedodd un o brif swyddogion RWE npower, Kevin McCullough, fod y dechnoleg orau yn cael ei defnyddio.

"Dylid cofio fod pwerdai ers y cychwyn cyntaf wedi defnyddio dŵr i oeri prosesau ...

"Rydym wedi cydweithio â'r awdurdodau perthnasol, gan gynnwys Asiantaeth yr Amgylchedd.

'Prosesau'

"Nhw sydd wedi edrych ar ein prosesau, ein datganiadau dulliau a nhw sydd wedi gweithio gyda'r contractwyr, y cynllunwyr ac maen nhw wedi bod yn fodlon ar yr hyn sydd wedi digwydd.

"Mae'r dechnoleg yn y pwerdy ar flaen y gad, yr un orau ar gael yn y byd ..."

Ond mae Comisiwn Ewrop yn anghytuno, a'r nodyn troseddu yn dweud bod y system oeri wedi ei dewis "oherwydd cost a chyfleustra".

Nid oedd Asiantaeth Amgylchedd Cymru am wneud cyfweliad ond mewn datganiad dywedodd llefarydd fod y "rheolaeth ddisgwyliedig ar gyfer ardal gadwraeth mewn lle".

Doedd gweinidogion llywodraethau Prydain a Chymru ddim am gael eu holi chwaith.

Ond mae gofyn i Adran Ynni Prydain ymateb i swyddogion Ewrop cyn y Nadolig.

Os bydd modd profi'r honiadau, fe allai ymchwiliad orfodi newid system oeri'r pwerdy a sicrhau bod iawndal yn cael ei ystyried yn y dyfodol.

Cyfeiriad trydar Iolo ap Dafydd yw @apdafyddi

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol