Rhyddhau llanc ar fechnïaeth

  • Cyhoeddwyd
Car heddlu ar y safle yn Shirenewton
Disgrifiad o’r llun,
Car heddlu ar y safle yn Shirenewton

Mae llanc 16 oed a gafodd ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i'r ymchwiliad barhau.

Mae'r heddlu'n ymchwilio i wrthdrawiad ddydd Sadwrn pan fu farw bachgen 7 oed ar barc carafannau yn Shirenewton ger Caerdydd.

Ddydd Llun cadarnhaoedd Heddllu De Cymru mai enw'r bachgen a fu farw oedd Tony Coffey.

Digwyddodd y gwrthdrawiad am tua 3:00pm ddydd Sadwrn, Rhagfyr 8.

Cafodd y bachgen ei gludo i Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd, ond bu farw yn ddiweddarach o'i anafiadau.

Mae'r heddlu yn parhau i apelio am dystion i'r digwyddiad, ac yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth allai fod yn gymorth i'r ymchwiliad i ffonio'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru:

"Credir bod criw o blant a phobl ifanc wedi gweld y gwrthdrawiad, ac mae'r heddlu yn eu hannog nhw a'u rieni i gysylltu.

"Mae'n bosib bod ganddynt wybodaeth allai fod o gymorth, ac fe allwn ddarparu unrhyw gefnogaeth sydd angen arnynt."