£6.8m i ddiogelu asedau Prifysgol Cymru

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Adroddiad Gwenfair Griffith

Mae Cyngor Prifysgol Cymru wedi creu cronfa fuddsoddi newydd gwerth £6.8 miliwn er mwyn diogelu asedau'r corff.

Yn ôl cyngor y brifysgol mi fydd Adduned Cymru yn sicrhau bod gwasanaethau traddodiadol sy'n gysylltiedig â'r Brifysgol megis Gwasg Prifysgol Cymru, Geiriadur Prifysgol Cymru, y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd a Neuadd Gregynog ger y Drenewydd yn parhau i gael eu cynnig yn y dyfodol.

Ymatebodd Geraint Talfan Davies, cadeirydd y Sefydliad Materion Cymreig, i'r cyhoeddiad drwy ddweud wrth BBC Cymru: "Mae'n swnio fel ffordd synhwyrol o fynd ymlaen.

"Mae eu cynnal trwy ymddiriedolaeth o'r fath yn saffach na dibynnu ar arian cyhoeddus.

"Mae'n bwysig bod y pethau 'ma'n cael eu cynnal."

Diogelu Neuadd Gregynog

Dywedodd cyngor y brifysgol:

  • Caiff Academi Treftadaeth Cymru, a fydd yn hyrwyddo'r iaith Gymraeg a threftadaeth a diwylliant Cymru, ei sefydlu fel menter ar y cyd. Bydd Cyngor y Brifysgol yn ymrwymo £500,000 cychwynnol i'r ymddiriedolaeth i ddatblygu gwaith y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd a Geiriadur Prifysgol Cymru.
  • Bydd Ymddiriedolaeth Gwasg Prifysgol Cymru'n diogelu ac yn datblygu gwaith y Wasg. Bydd Cyngor y Brifysgol yn trosglwyddo swm cychwynnol o £500,000 i'r ymddiriedolaeth newydd a fydd yn cynnig cyfle i'r wasg ddatblygu cynllun strategol newydd yn cynnwys cyfleoedd busnes newydd sy'n ymateb i ofynion digidol cyhoeddi ar-lein ac electronig. Gan weithio gyda sefydliadau academaidd eraill, bydd y wasg yn ehangu ei chylch gorchwyl addysgol ac yn datblygu amrywiaeth o fentrau newydd.
  • Bydd Ymddiriedolaeth Gregynog yn diogelu Neuadd Gregynog i'r genedl. Gyda chefnogaeth yr Arglwydd Davies, bydd yr ymddiriedolaeth elusennol hon yn gwahodd rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys cynrychiolwyr o addysg uwch, i fod yn aelodau. Ar hyn o bryd mae Gwasg Gregynog, a ddechreuodd y traddodiad argraffu cain ym 1922, yn destun adolygiad i bennu ei chyfeiriad yn y dyfodol. Bydd y Brifysgol yn defnyddio rhai o'i gwaddolion hanesyddol anghyfyngedig i sefydlu cronfa gychwynnol i gefnogi gwaith Ymddiriedolaeth Gregynog.
  • Caiff y tir sy'n weddill a ddelir mewn Ymddiriedolaeth gan y Brifysgol dan Ddeddf Eglwysi Cymru, sef tua 170 o erwau, yn ogystal â rhywfaint o dir comin, ei osod mewn Ymddiriedolaeth newydd, ar wahân. Hyd yma mae Prifysgolion Cymru wedi elwa'n sylweddol yn sgil trosglwyddo a gwerthu asedau tir. Er 1939/40, mae Prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd ac Abertawe wedi derbyn tua £2.7m yr un, tra bo Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Cymru wedi derbyn £1.8m. Bydd gweddill y tir yn cael ei werthu a bydd y cyllid a dderbynnir yn cael ei rannu yn unol â'r weithred gyfreithiol rhwng y sefydliadau uchod.

2017/18

Ym mis Hydref 2011, ymrwymodd Prifysgol Cymru i uno â Phrifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe.

Disgwylir y bydd y sefydliad a grëir, a fydd yn cynnwys y tair Prifysgol, yn gwbl integredig erbyn 2017/18.

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Cymru, yr Athro Medwin Hughes, ddydd Llun: "Mae gan Brifysgol Cymru hanes hir a balch sy'n dyddio'n ôl i 1893 ac mae wedi gwneud cyfraniad rhagorol i addysg uwch. Fodd bynnag mae'r oes wedi newid.

"Mae'r sector prifysgolion yng Nghymru wedi tyfu ac wedi cryfhau ac mae angen ffyrdd newydd o weithio i wynebu heriau'r byd modern.

"Mae Prifysgol Cymru'n ymwneud yn gadarnhaol â'r broses hon. Mae wedi dechrau ar drafodaethau cyfreithiol a sefydlu ymgynghoriad cychwynnol.

"Bydd y rhain wrth reswm yn parhau yn ystod y cyfnod hwn. Ar yr un pryd bydd y Brifysgol yn diogelu ei hetifeddiaeth i genedlaethau'r dyfodol a Chymru gyfan.

"Wrth greu Adduned Cymru, mae'r Brifysgol yn ffyddlon i'w gwerthoedd craidd ac yn sicrhau y bydd yr asedau'n gwasanaethu'r diben y'u crëwyd ar ei gyfer.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol