Cynllunio: symleiddio'r broses?
- Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Papur Ymgynghorol fel rhan o'r broses o symleiddio'r drefn gynllunio yng Nghymru.
Wrth gyhoeddi'r ymgynghoriad, dywedodd y gweinidog Amgylchedd John Griffiths:
"Dwi'n awyddus fod y drefn cynllunio yn cyfrannu i'r broses o adfywio'r economi ac i wneud hynny trwy ddiddymu biwrocratiaeth di angen. Ond ar yr un pryd, dwi am i unrhyw ymgynghoriad fod yn drylwyr"
Creu cysondeb yw'r nod wrth i gynghorau ymdrin â cheisiadau gan berchnogion eiddo a busnesau sydd am wneud man newidiadau i'w heiddo. Mae'r drefn ar hyn o bryd yn amrywio o un awdurdod i'r llall.
Mae'r papur yn gofyn am syniadau ar sut i sefydlu trefn gynllunio fyddai'n sicrhau cysondeb ar draws Cymru
'Man newidiadau' ym marn y Llywodraeth yw'r rhai nad ydynt yn effeithio ar gais cynllunio yn ei gyfanwaith na chwaith yn amharu ar eiddo cymdogion.
Straeon perthnasol
- 7 Tachwedd 2012
- 6 Rhagfyr 2012