Treisio: Carcharu tad a mab
- Cyhoeddwyd

Mae tad a mab o Fae Colwyn wedi cael eu carcharu am gyfanswm o 28 o flynyddoedd am dreisio a nifer o ymosodiadau rhyw ar wragedd a phlant.
Cafodd Barry Ford, 64 oed, cyn weithiwr mewn siop elusen ei garcharu am 18 mlynedd, a'i fab Craig McKellar, 31, ei garcharu am 10 blynedd.
Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug fod yr ymosodiadau rhywiol yn dyddio'n ôl i'r 80au.
Roedd yr achosion wedi dod i'r amlwg ar ôl i nifer o'r dioddefwyr, nifer ohonynt yn blant a phobl ifanc, wneud cwyn i Heddlu'r Gogledd.
Dywedodd y barnwr Rhys Rowlands fod y dioddefwyr wedi bod yn hynod ddewr.
Roedd Ford, yn wreiddiol o Wolverhampton, wedi gweithio ar un adeg i gwmni colur Avon.
Dioddefwyr
Fe wnaeth o orfodi'r dioddefwyr i wisgo colur a phersawr.
"Yn ffodus, dim ond ar adegau prin iawn mae angen i lys ddelio gyda dau ddyn, tad a mab, sydd wedi creu gymaint o ddioddefaint," meddai'r barnwr.
"Pe bai eich mab wedi cael ei fagu mewn sefyllfa normal, gyda thad parchus oedd yn gwybod sut i ymddwyn, mae'n bosib na fyddai'n sefyll wrth ei ochr heddiw," meddai'r barnwr wrth Ford.
Clywodd y llys fod McKellar yn gyfrifol am ymosodiadau rhyw pan yn blentyn, ond ni ellid ei erlyn oherwydd ei oed.
Ond fe gafodd ei erlyn am achosion o dreisio tra yn ei 20au.
Dywedodd y barnwr fod un o'r dioddefwyr wedi troi at buteindra er mwyn talu am erthyliad, oherwydd ei bod yn disgwyl babi o ganlyniad i'w threisio.
Clywodd y llys fod yna gwynion wedi eu gwneud yn erbyn Ford yng nghanolbarth Lloegr yn y 1980au a 1990au ond ni chafwyd achos yn ei erbyn.
Roedd McKellar wedi pledio'n euog mewn gwrandawiad blaenorol i bedwar achos o ymosod yn rhywiol a dau achos o dreisio.
Roedd Ford wedi gwadu'r cyhuddiadau yn ei erbyn.
Straen
Ond yn dilyn dau achos ar wahân fe'i cafwyd yn euog o saith achos o dreisio yn gysylltiedig ag un wraig a chwe achos o ymosod yn rhywiol ar eraill.
Gofynnodd Simon Mintz, ar ran Ford, i'r llys ystyried ei oedran, a faint o flynyddoedd o'i fywyd oedd yn weddill.
Dywedodd Andrew Grenn, cyfreithiwr McKellar, y byddai ei gleiant angen cymorth arbenigol oherwydd gorffennol cymhleth a niweidiol.
Ar ôl yr achos dywedodd y ditectif cwnstabl Paul Jones o Heddlu'r Gogledd nad oedd Ford wedi dangos unrhyw edifeirwch, gan olygu fod y dioddefwyr wedi gorfod wynebu straen achos llys.