Carchar am oes i lofrudd dyn o Abertawe
- Published
Mae dyn wedi ei garcharu am oes am lofruddio dyn 48 oed a gafodd ei ddisgrifio fel "brawd gofalgar a chariadus".
Cafwyd hyd i gorff Gary Edwards, o ardal Treboeth, Abertawe, mewn tŷ yn yr ardal honno o'r ddinas ar Orffennaf 25 eleni.
Yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth dyfarnodd y barnwr y byddai'n rhaid i James Colten aros yn y carchar am o leiaf 13 mlynedd a phedwar mis.
Roedd Colten wedi cyfaddef i'r cyhuddiad o lofruddiaeth.
'Diolch i'r gymuned'
Wedi'r achos llys fe ddiolchodd Heddlu De Cymru i bobl yr ardal am eu help.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Mark Lewis, a arweiniodd yr ymchwiliad: "Rwyf am ddiolch i'r gymuned leol yn ogystal â thystion eraill sydd wedi ein cefnogi ers dechrau'r ymchwiliad hwn."
Ar ôl i gorff Mr Edwards gael ei ganfod, dywedodd ei chwaer, Elaine Goldup, ei fod yn frawd " gofalgar a chariadus, oedd wedi ei barchu gan ei nithoedd a neiaint".
"Fe fydd ei deulu yn gweld colled ar ei ôl."
Straeon perthnasol
- Published
- 27 Gorffennaf 2012
- Published
- 26 Gorffennaf 2012