Apêl am dystion wedi i ddyn farw mewn damwain ffordd yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Bu farw dyn 70 oed o Sir Benfro ar ôl damwain ar yr A487 rhwng Tyddewi a Mathri.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng car Hyundai ac Audi tua 6.30pm nos Lun.
Aed â gyrrwr yr Audi, dyn lleol 27 oed i Ysbyty Llwynhelyg gydag anafiadau difrifol.
Mae'r Heddlu Dyfed Powys yn gofyn i unrhyw un welodd y ddamwain i gysylltu â nhw.