Cyfrifiad 2011: Statws Priodasol
- Cyhoeddwyd
Roedd llai o bobl Cymru yn briod yn 2011 o'i gymharu â 2001 yn ôl ystadegau'r Cyfrifiad.
Yn 2011, roedd 46.6% (1.17 miliwn) yn briod.
Yn 2001, roedd 52.0% (1.20 miliwn) yn briod.
Cododd cyfran y bobl sengl o 28.1% (650,000) yn 2001 i 33.5% (840,000) yn 2011.
Daeth y Ddeddf Partneriaeth sifil i rym yn 2004.
Erbyn 2011, roedd 5,000 o bobl Cymru (0.2%) mewn partneriaeth sifil gofrestredig.