Cau ysgolion cynradd: Cadw'r trothwy yn 20
- Cyhoeddwyd
Mae Cabinet Cyngor Ceredigion wedi penderfynu gwrthod argymhelliad arolwg i ystyried cau ysgolion sydd â llai na 30 o blant ond cadw'r trothwy ar 20 o blant.
Penderfynodd aelodau'r cabinet gytuno â nifer o argymhellion un o bwyllgorau craffu'r cyngor, Cymunedau sy'n Dysgu, wnaeth ystyried arolwg ar drefniadaeth ysgolion yng Ngheredigion gan gyn-arolygydd Estyn, Alun Morgan.
Hefyd cytunodd y cabinet y dylid ymgynghori ac annog ysgolion sy'n gostwng islaw 50 o ddisgyblion i gydweithio ag ysgol arall.
Cytunodd y cabinet hefyd â'r argymhelliad i leihau nifer presennol y lleoedd sbâr yn y sir a lleihau nifer yr ysgolion lle mae gan benaethiaid ymrwymiad addysgu.
Yn ogystal penderfynodd y cabinet sicrhau ymagwedd ragweithiol at reoli newid a datblygu yng ngoleuni'r amgylchiadau economaidd, demograffig ac addysgol.
Hefyd penderfynwyd i barhau i osgoi setliad lle byddai un ateb yn addas i bob sefyllfa a rhoi ystyriaeth ofalus i amgylchiadau a chyd-destun lleol.
Cafodd yr arolwg ei gomisiynu wedi i arweinydd y cyngor, Ellen ap Gwynn, ofyn am adolygiad o'r strategaethau a'r polisïau cyfredol oedd yn gysylltiedig â'r rhaglen ad-drefnu ym mis Mehefin eleni.
Fis yn ddiweddarach penderfynodd y cabinet oedi cyn gwneud unrhyw benderfyniadau pellach ynglŷn â dyfodol addysg yn y sir, er mwyn disgwyl i Mr Morgan gwblhau adroddiad ynghylch rhaglen ad-drefnu ysgolion Ceredigion.
Daw'r drafodaeth ynghylch ad-drefnu addysg yn y sir wedi i nifer o ysgolion cynradd gael eu cau dros y blynyddoedd diwethaf.
Gostyngiad
Ym mis Medi agorodd Ysgol T Llew Jones ym Mrynhoffnant, ger Llandysul, wedi i ysgolion Blaenporth, Glynarthen, Rhydlewis a Phontgarreg gau.
Hon oedd yr ail ysgol fro i gael ei chodi yng Ngheredigion yn ystod y tair blynedd diwethaf, a hynny ar gost o £5 miliwn.
Mae nifer y disgyblion yng Ngheredigion wedi gostwng o 10,695 yn 2001 i 9,655 ym mis Ionawr eleni.
Yn ôl y cyngor, mae 'na 1,436 o leoedd gweigion mewn 54 ysgol gynradd yn y sir.
Mae gan y sir saith ysgol uwchradd.
Bydd argymhellion y cabinet yn mynd gerbron cyfarfod llawn o'r cyngor sir ddydd Iau.
Straeon perthnasol
- 13 Tachwedd 2012
- 2 Tachwedd 2012
- 7 Medi 2012
- 31 Gorffennaf 2012
- 26 Mawrth 2012
- 8 Rhagfyr 2011
- 13 Hydref 2011