Cyngor Ceredigion i daclo di-weithdra ymysg yr ifanc

  • Cyhoeddwyd
Y Stryd Fawr, AberystwythFfynhonnell y llun, BBC news online
Disgrifiad o’r llun,
Bwriedir i'r rhaglen yn Aberystwyth ganolbwyntio ar fanwerthu a lletygarwch er mwyn bodloni "realiti marchnad swyddi" y dref

Mae Cabinet Cyngor Ceredigion wedi cymeradwyo cynllun i leihau diweithdra ymysg pobl ifanc yn ardal Aberystwyth.

Yn ôl adroddiad gan StatsCymru, cyfradd anweithgarwch economaidd ymysg pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed y sir yw'r gyfradd uchaf fesul poblogaeth yng Nghymru.

Cynyddodd nifer y garfan hon o'r gweithlu sy'n segur yn economaidd o 16.1% yn 2011 i 26.7% ym mis Mawrth 2012.

Yn ôl adroddiad gan Gyrfa Cymru, Ceredigion oedd yr unig awdurdod lleol yng Nghymru i weld cynnydd o ran pobl ddi-waith a adawodd ysgol ym mlwyddyn 11 yn 2011.

Toriadau

Cafodd swyddogion y cyngor ganiatâd y cabinet ddydd Mawrth i fwrw ymlaen â chynnig i ddarparu pum rhaglen Tîm Ymddiriedolaeth y Tywysog a phum rhaglen 'Get Into' Ymddiriedolaeth y Tywysog yn ardal Aberystwyth.

Dywed yr adroddiad aeth gerbron y cabinet fod data lleol Gyrfa Cymru ar gyfer pobl ifanc di-waith rhwng 16 ac 18 oed ym mis Gorffennaf eleni yn dangos tystiolaeth bod y gyfradd o bobl ifanc di-waith yn byw yn ardal Aberystwyth yn uchel iawn.

Yn ôl yr adroddiad, cafodd rhaglen Tîm Ymddiriedolaeth y Tywysog ei weithredu ar brawf gan Hyfforddiant Ceredigion Training (HCT) - sy'n rhan o'r cyngor sir - gyda 10 o'r 12 cyfranogwr yn mynd yn eu blaenau i waith, addysg neu hyfforddiant ar ôl y cwrs.

Ychwanegodd yr adroddiad nad oes gan HCT adnoddau i weithredu rhaglen Tîm ar hyn o bryd oherwydd toriadau ac ailstrwythuro.

Ond bydd y cynnig yn darparu adnoddau i HCT fydd yn eu galluogi i ddarparu pum rhaglen tîm sy'n para 15 wythnos yr un ar gyfer rhwng 50 a 75 o gyfranogwyr yn ystod y ddwy flwyddyn ariannol nesaf.

Mae'r rhaglen hon yn cynnig profiad gwaith, cymwysterau, sgiliau ymarferol, prosiectau cymunedol ac wythnos breswyl.

'Realiti marchnad swyddi'

Yn ôl adroddiad y cyngor mae dros 70% o'r cyfranogwyr di-waith yn mynd yn eu blaenau i waith, hyfforddiant neu addysg cyn pen tri mis ar ôl cwblhau'r cwrs.

Bwriad y cynllun hefyd yw cynnal pum rhaglen 'Get Into' Ymddiriedolaeth y Tywysog sy'n berthnasol i'r cyfleoedd gwaith yn Aberystwyth.

Mae'r rhaglen hon yn gwrs blasu sy'n targedu pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed gyda'r nod o sicrhau bod gan bobl ifanc y profiad, y sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i gael hyd i swydd.

Bwriad y rhaglen yn Aberystwyth fydd i ganolbwyntio ar fanwerthu a lletygarwch er mwyn cyd-fynd â "realiti marchnad swyddi" y dref.

Cyfanswm gwerth y prosiect fydd £280,822 a bydd swyddogion yn ceisio am gyllid refeniw Ardal Adfywio Aberystwyth i roi'r rhaglen ar waith.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol