Arestio llanc am drydar hiliol honedig

Cyhoeddwyd

Mae llanc yn ei arddegau wedi cael ei arestio yn dilyn honiadau ei fod wedi gwneud sylwadau hiliol ar wefan twitter ynglŷn â golwr tîm pêl droed Cymru Jason Brown.

Fe gafodd y neges ei bostio ar y wefan ar ôl gêm ragbrofol Cwpan y Byd rhwng Cymru a'r Alban ym mis Hydref.

Dywed yr heddlu fod y llanc 17 oed yn dod o Aberdeen.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol